Lefant
Oddi ar Wicipedia
Y Lefant (o'r Ffrangeg Levant; lle gwawria'r haul) yw'r enw traddodiadol ar yr ardal ar arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir sy'n cael ei chynnwys heddiw yng ngwladwriaethau Twrci (cornel dde-ddwyreiniol y wlad), Syria (ac eithrio'r rhannau dwyreiniol), Libanus ac Israel. Fe'i gelwir hefyd "y Dwyrain Agos" ac mae'r Sinai a rhannau o Wlad Iorddonen yn cael eu cynnwys yn yr ardal weithiau yn ogystal.
Gelwid Syria a Libanus dan reolaeth mandad Ffrainc "Taleithiau'r Lefant".