Llandeilo Ferwallt
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned tua 5 milltir i'r de-orllewin o Abertawe ar benrhyn Gŵyr yw Llandeilo Ferwallt (Saesneg: Bishopston). Mae'r Mwmbwls yn gorwedd dwy filltir i'r dwyrain.
I ddechrau cyfuniad o 'Llan' a Merwall oedd yr enw, ac fe dyfodd 't' yn raddol ar ddiwedd yr enw personol. Pan fu anghytuno rhwng Esgobaeth Llandaf ac Esgobaeth Tyddewi ynglyn â'r ffiniau rhyngddynt rhoddwyd yr enw Teilo i fewn i'r enw ar ôl ailgysegru'r eglwys leol i Sant Teilo, gan ei fod yn nawddsant Esgobaeth Llandaf, er mwyn tanlinellu ei bod yn perthyn i'r esgobaeth honno.
Llandeilo yw un o'r pentrefi mwyaf ar benrhyn Gŵyr. Mae ganddo ei glwb rygbi ei hun, South Gower RFC, a'i ysgol gyfun, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.
Ceir sawl traeth lleol fel Brandy Cove, Bae Caswel a Pwll Du (gweler y llun).
Trefi a phentrefi Abertawe |
Abertawe | Casllwchwr | Clydach | Dynfant | Y Gellifedw | Y Glais | Gorseinon | Llandeilo Ferwallt | Llangyfelach | Llanrhidian | Y Mwmbwls | Penclawdd | Pontarddulais | Pontlliw | Port Einon | Rhosili | Sgeti | Treforys | Tre-gŵyr |