Treforys
Oddi ar Wicipedia
Treforys Abertawe |
|
Tref ger Abertawe yn Sir Abertawe yw Treforys, cartref i ganolfan y DVLA ac un o ysbytai mwyaf Cymru.
Sefydlwyd Treforys tua 1720 pan agorwyd gwaith copr gan John Morris. Roedd y dref yn ganolfan i'r diwydiannau metel tan 1980 pan gaeodd Gwaith Dyffryn, gwaith olaf Treforys.
Mae Clwb Rygbi Treforys yn chwarae mewn Adran 4 o Gynghrair Cymru.
Treforys yw cartref Côr Orpheus Treforys, un o gorau meibion enwocaf y byd. Mae'r côr yn teithio'r byd i gyd ac yn dod â chofion a hiraeth i blant Treforys lle bynnag maent yn byw.
Capel Tabernacl yng nghanol y dref yw capel mwyaf Cymru. Mae rhai'n ei alw'n Eglwys Gadeiriol yr Annibynnwyr. Agorwyd Tabernacl yn 1872.
Trefi a phentrefi Abertawe |
Abertawe | Casllwchwr | Clydach | Dynfant | Y Gellifedw | Y Glais | Gorseinon | Llandeilo Ferwallt | Llangyfelach | Llanrhidian | Y Mwmbwls | Penclawdd | Pontarddulais | Pontlliw | Port Einon | Rhosili | Sgeti | Treforys | Tre-gŵyr |