Llyn Llywenan
Oddi ar Wicipedia
Mae Llyn Llywenan yn lyn yng nghanol Ynys Môn, rhyw filltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Bodedern ac ychydig i'r de-orllewin o Lyn Alaw. Gydag arwynebedd o 39.1 ha., Llyn Llywenan yw'r llyn naturiol mwyaf ar yr ynys. Mae’n perthyn i ystad Presaddfed.
Nid oes unrhyw afon o faint yn llifo i mewn nag allan o'r llyn. Ceir pysgota brithyll yno, ac mae amrywiaeth o adar dŵr yn nythu. Mae'r llyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ger ochr ddeheuol y llyn mae siambr gladdu Neolithig Presaddfed.