Louis Pasteur
Oddi ar Wicipedia
Cemegydd Ffrengig sy'n fwyaf enwog am ei waith ym maes oedd meicrobioleg oedd Louis Pasteur (27 Rhagfyr 1822 – 28 Medi 1895).
Ganed ef yn Dole yn département Jura yn Ffrainc. Sylweddoddol ei brifathro yn yr ysgol fod ganddo allu anarferol, ac awgrymodd ei fod yn ceisio am le yn yr École Normale Supérieure. Bu'n dysgu ffiseg yn Lycée Dijon am gyfnod byr, cyn cael cadair cemeg ym Mhrifysgol Strasbourg. Yno priododd Marie Laurent yn 1849. Cawsant bump o blant, ond bu tri ohonynt farw yn ieuanc. Yn 1854, daeth yn Ddeon y Coleg Gwyddoniaeth newydd yn Lille, ac yn 1856 yn gyfarwyddwr astudiaethau gwyddonol yn yr École Normale Supérieure.
Profodd arbrofion Pasteur mai meicroorganau oedd yn achosi afiechydon. Ystyrir ef, gyda Ferdinand Cohn a Robert Koch, yn dad meicrobioleg. Enwyd y broses o basteureiddio, i ladd meicroorganau mewn llaeth a hylifau eraill. Tra'n astudio eplesiad siwgr i alcohol gan furum, daeth Pasteur i'r casgliad fod eplesiad yn cael ei gataleiddio gan rym bywiol o fewn y celloedd burum a elwir yn esplesiaid, ac yn wreiddiol credwyd fod yr rhain yn gweithio o fewn organebau byw yn unig. Ysgrifennodd Pasteur fod "eplesiad alcoholig yn weithred sy'n gydberthnasol â bywyd ac trefniant celloedd burum, nid marwolaeth neu bydredd y celloedd."