Luciano Pavarotti
Oddi ar Wicipedia
Canwr opera Eidalaidd oedd Luciano Pavarotti (12 Hydref, 1935 – 6 Medi, 2007).
Ganed Luciano Pavarotti ar gyrion Modena yng ngogledd yr Eidal. Roedd y teulu yn dlawd, ond roedd ei dad yn ganwr dawnus ac yn berchen recordiau o ganu tenoriaid megis Beniamino Gigli, Giovanni Martinelli, Tito Schipa a Enrico Caruso. Bu'n canu yng nghôr yr eglwys leol, ac yn 1954 dechreuodd gymeryd gwersi cerddorol. Yn 1955 roedd yn aelod o gôr lleol o Modena a ddaeth i gystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Enillodd y côr, a rhoddodd hyn ysgogiad iddo droi yn ganwr proffesiynol. Rhoddodd ei berfformiad opera cyntaf ar 29 Ebrill, 1961 fel Rodolfo yn La bohème, yn Reggio Emilia.
Aeth ymlaen i ddod yn un o ganwyr mwyaf adnabyddus y byd. Daeth yn enwog ymhell tu hwnt i fyd opera, yn enwedig wedi Cwpan Peldroed y Byd a gynhaliwyd yn yr Eidal yn 1990. Pavarotti yn canu aria Giacomo Puccini, "Nessun Dorma" o'r opera Turandot oedd thema'r gystadleuaeth, a chynhaliodd gyngerdd "Y Tri Tenor" yn Rhufain gyda Plácido Domingo a José Carreras.