Lusitania (llong)
Oddi ar Wicipedia
Llong deithio gefnforol yn perthyn i Linell Cunard oedd yr RMS Lusitania. Am gyfnod hi oedd y llong fwyaf yn y byd a'r fwyaf moethus yn ogystal.
Lawnsiwyd y Lusitania ym 1903. Cafodd ei hadeiladu ym Mhrydain gan gwmni John Brown & Co., Glasgow. Roedd ganddi hyd o 761 troedfedd a lled trawst o 88 troedfedd. Roedd hi'n pwyso 31,550 tunnell ac yn cael ei gyrru gan bedwar siafft gyriant uniongyrchol o 68,000hp a'i galluogai i gyrraedd cyflymder o 24 knot. Roedd ganddi le i 568 teithiwr dosbarth cyntaf, 464 yn yr ail ddosbarth a 1138 yn y trydydd dosbarth.
Yn ystod mis Hydref 1907, roedd y Lusitania'n dal y Ruban Glas am deithiau dros yr Iwerydd yn y ddau gyfeiriad fel ei gilydd. Llwyddodd i gyrraedd cyflymder o 25.63 knot ar gyfartaledd ar y daith i gyfeiriad y gorllewin dros bellter o 5232km (2890 milltir morwrol).
Ond fe'i cofir yn bennaf heddiw am ei diwedd trasig. Ar y 7 Mai 1915, cafodd ei suddo yn ddirybudd gan dorpedo a daniwyd gan y llong danfor U-20 gyferbyn Kinsale ar arfordir deheuol Iwerddon. Collwyd 1198 o fywydau. Cludwyd y goroeswyr, a dioddefwyr, yn y dre Cobh a chladdodd fwy na 100 o'r dioddefwyr yn Fynwent yr Hen Eglwys. Mae cofadail i'r Lusitania ym Maes Casement yn y dre.
Un peth sy'n ddirgelwch hyd heddiw ydy methiant y capten i gymryd cwrs igam-ogam er mwyn ceisio osgoi'r torpedo. Roedd tua 228 o'r teithwyr a gollwyd yn ddinesyddion Americanaidd ac mae'n debyg fod y golled honno wedi chwarae rhan nid dibwys ym mhenderfyniad yr Unol Daleithiau i ymladd wrth ymyl y Cynghreiriaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf.