Y Rhyfel Byd Cyntaf
Oddi ar Wicipedia
Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 a daeth i ben yn 1918. Dyma'r tro cyntaf y defnyddwyd arfau cemegol ac hefyd y tro cyntaf y taflwyd bomiau o awyrennau a chafwyd yr engraifft gyntaf o hil-laddiad y ganrif yn ystod y rhyfel hon. Nid oedd cymaint o filwyr erioed o'r blaen wedi cael eu defnyddio mewn gwrthdarro neu ryfel, ac anafwyd mwy o filwyr nag erioed o'r blaen.
Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfnod o newidiau mawr, gan roi terfyn ar yr hen drefn a pharatoi'r ffordd i'r drefn newydd. Dyma gyfnod cwymp teuluoedd fel yr Habsburg, y Romanov, a'r Hohenzollern a oedd wedi bod mor ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ewrop gyda'i gwreiddiau yn mynd yn ôl i ddyddiau y crwsadau.
Achosodd y rhyfel hon yr Ail Rhyfel Byd yn ogystal a Chomiwnyddiaeth a'r Rhyfel Oer ac felly roedd yn ddylanwad sylweddol ar fywyd yr hugeinfed ganrif.
Oherwydd y rhyfel hon daeth cyfnod absoliwtiaeth Ewrop i ben a chafwyd Chwyldro Rwsia. Cwymp yr Almaen heb ddatrys problemau y wlad oedd achos Natsïaeth a felly dechrau yr Ail Rhyfel Byd ym 1939.
Dyma'r rhyfel modern cyntaf i ddibynnu ar dechnoleg arfau a lledaenu dychryn rhwng pobl cyffredin oedd ddim yn filwyr. Mae nifer o ysgolheigion yn dweud fod e ddim ond rhan cyntaf rhyfel mawr sy'n 30 o flynyddoedd yn hir (rhwng 1914 a 1945}.
Lladdwyd mwy na 9 miliwn o filwyr yn ystod brwydrau a bron cynnifer o bobl cyffredin o achos newyn, hil-laddiad a bomiau.
Lladdwyd 40,000 o Gymry a oedd yn y lluoedd arfog.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Rhesymau Dros y Rhyfel
Yn dilyn llofryddiaeth Franz Ferdinand, etifedd coron Awstria, yn Sarajevo ar 28 Mehefin 1914 dechreuodd rhyfel rhwng yr Almaen ac Awstria-Hwngari a Ffrainc a Rwsia erbyn y 3 Awst 1914. Trannoeth roedd Prydain wedi ymuno ar ochr Ffrainc a Rwsia. Dyna'r ffeithiau moel ond mae'r rhesymau am y rhyfel yn gymleth ac yn ddadleuol.
[golygu] Awstria a'r Almaen
Dadl y cyngheiriad yn union wedi'r rhyfel oedd yn hollol syml mai ymosodiad Awstria ar ar Serbia ar yr 29 Gorffennaf 1914 a goresgyniad yr Almaen ar Wlad Belg ar y 3 Awst oedd yn gyfrifol.
[golygu] Ras Arfau
Roedd ras arfau milwrol wedi tyfu ac wedi dwysau erbyn 1906 rhwng prydain a'r Almaen. Roedd adeiladur'r llong ryfel HMS Dreadnought wedi gwneud llongau rhyfel blaenorol fwy neu lai yn ddiwerth.
[golygu] Cynlluniau Rhyfel Ffrainc, Yr Almaen a Rwsia
[golygu] Militariaeth a gwrth-ddemocratiaeth
[golygu] Imprerialaeth Economaidd
[golygu] Cenedlaetholdeb
[golygu] Brwydrau pwysig y Rhyfel Byd Cyntaf
- 1914
- 12 Awst - Brwydr Cer
- 14 Awst-2 Medi - Brwydr Tannenberg
- 17 Awst - Brwydr Stalluponen
- 21 Awst - Brwydr yr Ardennes
- 23 Awst - Brwydr Mons
- 28 Awst - Brwydr Heligoland
- Medi - Brwydr Cyntaf y Marne
- 31 Hydref-22 Tachwedd - Brwydr Cyntaf Ypres
- 1 Tachwedd - Brwydr Coronel
- 11 Tachwedd - Brwydr Lodz
- 1915
- 1916
- Chwefror-Rhagfyr - Brwydr Verdun
- 27 Ebrill - Brwydr Hulluch
- 31 Mai - Brwydr Jutland
- 7 Gorffennaf - Brwydr Coed Mametz
- 27 Hydref - Brwydr Segale
- Brwydr y Somme 1916
- 23 Rhagfyr - Brwydr Magdhaba
- 1917
- 26 Mawrth - Brwydr Cyntaf Gaza
- 24 Hydref-9 Tachwedd - Brwydr Caporetto
- 1918
- Brwydr Gyntaf y Somme (1918) (21 Mawrth –5 Ebrill 1918) - Yr enw Saesneg ar ymosodiad yr Almaen.
- 1 Mehefin - Brwydr Coed Belleau
- 15 Gorffennaf - Ail Frwydr y Marne
- Ail Frwydr y Somme (1918) (21 Awst –3 Medi 1918) - ail ran o ymosodiad Prydain yn Picardy yn ystod y Can Niwrnod Hundred mae y rhyfel yn beth trist iawn ac wedi lladd llawer.
- Awst - Brwydr Amiens
- Medi - Brwydr Megiddo