Magnus III, brenin Norwy
Oddi ar Wicipedia
Roedd Magnus III neu Magnus Olafsson (c.1074 - 1103) yn frenin Norwy o 1093 hyd ei farwolaeth. Fe'i llysenwyd Magnus Droednoeth am iddo fabwysiadu'r kilt Albanaidd yn lle'r trowsus Llychlynaidd traddodiadol.
Roedd Magnus yn un o'r olaf o'r brenhinoedd viking a fentrai ar y môr i geisio cadw gafael Norwy ar ei thiriogaethau lled-annibynnol ym Môr y Gogledd, Iwerddon a'r Môr Celtaidd.
Roedd yn fab i'r brenin Olaf III Haraldsson. Gwnaeth gyfres o gyrchoedd ar ynysoedd Orkney a Shetland (1098-1099).
Yn ystod y blynyddoedd 1102-1103 arweiniodd ei lynges i ymosod ar Lychlynwyr anheyrngar gorllewin yr Alban ac Iwerddon. Cipiodd Ddulyn a chododd amddiffynfeydd newydd ar Ynys Manaw, ond yn ddiweddarach cafodd ei ladd mewn ysgarmes yn Ulster.
[golygu] Gruffudd ap Cynan
Fe'i gofir yn hanes Cymru am ei berthynas â Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. Yn ôl Hanes Gruffudd ap Cynan, daeth Magnus a'i lynges i gynorthwyo Gruffudd mewn brwydr yn erbyn Normaniaid Caer ac Amwythig mewn brwydr ger Afon Menai yn 1098. Lladdodd Magnus Huw iarll Amwythig yn y frwydr:
- A trannoeth, nachaf (dyna) trwy weledigaeth Duw llynges frenhinol yn agos yn ddirybudd yn ymddangos... // A'r brenin ei hun, yn ddigyffro o'r cwr blaen i'r llong, a frathws (tarodd) â saeth Hu iarll Amwythig yn ei lygad, ac yntau a ddigwyddws (syrthiodd) o'i ochrwm i'r ddaear yn friwedig ddienaid i-ar ei farch arfog, dan ymffustio yn ei arfau.
Ceir sawl cyfeiriad at ymddangosiad llynges Magnus mewn ffynonellau Norseg a Saesneg Canol hefyd, ond mae'r adroddiadau'n amrywio.
[golygu] Ffynonnellau Llychlynaidd
Mae'r hanesydd o wlad yr Iâ Snorri Sturluson (1179-1241) yn croniclo bywyd Magnus yn ei lyfr Saga Magnus. Cyfeirir ato mewn sawl cerdd a saga arall yn ogystal.