Dulyn
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Gweriniaeth Iwerddon a'i dinas fwyaf yw Dulyn (Gwyddeleg: Baile Átha Cliath; Saesneg: Dublin). Mae wedi'i lleoli ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, ar aber Afon Life. Fe'i sefydlwyd gan y Llychlynwyr yn 988 ac mae'n brifddinas Iwerddon ers yr Oesoedd Canol.
Mae'r enw yn gyfieithiad o'r Wyddeleg "dubh linn" ("pwll du").
Roedd poblogaeth y ddinas weinyddol yn 505,739 yn ôl cyfrifiad 2006, ond 'roedd poblogaeth yr ardal drefol gyfan, yn cynnwys y maestrefi gerllaw, yn 1,186,159.