Maldwyn (etholaeth Cynulliad)
Oddi ar Wicipedia
Sir etholaeth | |
---|---|
![]() |
|
Lleoliad Maldwyn : rhif 2 ar y map o Powys | |
Creu: | 1999 |
Math: | Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
AC: | Mick Bates |
Plaid: | Y Democratiaid Rhyddfrydol |
Rhanbarth: | Canolbarth a Gorllewin Cymru |
Etholaeth Maldwyn yw'r enw ar etholaeth Cynulliad yn rhanbarth etholiadol Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mick Bates (Y Democratiaid Rhyddfrydol) yw'r Aelod Cynulliad.
Mae'r ddwy etholaeth hyn yn gadarnleoedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Y Ceidwadwr Glyn Davies – a ddaeth yn Aelod y Cynulliad trwy’r rhestr rhanbarthol – a ddaeth yn ail yma yn etholiad y Cynulliad ym 1999 gyda 23 y cant o’r bleidlais.
Ni cheir llawer o seddi Cymreig, os o gwbl, sy’n fwy gwledig na Maldwyn. Mae ffurflenni cyfrifiad wedi dangos bod mwy o’r boblogaeth weithiol yn cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth yma nag mewn unrhyw ran arall o Brydain. Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn ffrwythlon a bryniog, gyda’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn siarad Saesneg, er bod Cymraeg yn fwy cyffredin tua’r gorllewin, sy’n ymestyn i fryniau Elerydd.
Prif drefi’r sir yw’r Trallwng a’r Drenewydd. Arferai’r Drenewydd fod yn bencadlys Bwrdd Datblygu Cymru Wledig ond ers i’r corff hwnnw gael ei amsugno gan Awdurdod Datblygu Cymru mae’r ardal wedi gweld amrywiaeth eang o ddatblygiadau diwydiannol. Ond mae amaethyddiaeth yn dal i fod yn ganolbwynt i’r economi leol, a chafodd ffermydd yn y sedd hon eu heffeithio’n arw gan glwy’r traed a’r genau. Er bod yr ardal wedi cael tipyn o fuddsoddiad o’r tu allan dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae’r cyhoeddiad diweddar am golli 250 o swyddi yng ngwaith modurol KTH yn Llanidloes yn dipyn o ergyd.