Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Oddi ar Wicipedia
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff datganoledig sy'n trafod polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru, ac yn dyrannu'r arian a rennir iddo gan Lywodraeth y DU. Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Mae 60 o aelodau yn y Cynulliad (Aelod y Cynulliad -- A.C., neu yn Saesneg Assembly Member -- A.M.). Mae 40 o'r aelodau yn cynrychioli etholaeth un aelod, ac mae'r 20 sy'n weddill yn cael eu hethol gan gynrychiolaeth gyfrannol dros y pump etholaeth rhanbarthol yng Nghymru.
Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor o bedair mlynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf ym 1999, 2003 a 2007.
Dirprwyir pwerau gweithredol y Cynulliad i Brif Weinidog y Cynulliad. Dirprwya'r Prif Weinidog yn ei dro gyfrifoldeb am gyflawni'r swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government), sy'n ffurfio'r Cabinet. Rheolir gweithgareddau'r Cynulliad gan y Llywydd, sydd ei hun yn Aelod Cynulliad.
Prif gorff ymgynghorol ar gyfer addysg y Cynulliad yw'r Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.
[golygu] Aelodau'r Cynulliad ar ôl Etholiad Mai 2007
|
|
A
- Leighton Andrews (Llafur - Rhondda)
- Laura Anne Jones (Ceidwadwyr - Dwyrain De Cymru)
- Mohammad Asghar (Plaid Cymru - Dwyrain De Cymru)
B
- Lorraine Barrett (Llafur - De Caerdydd a Phenarth)
- Mick Bates (Democratiaid Rhyddfrydol - Maldwyn)
- Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol - Gorllewin De Cymru)
- Nick Bourne (Ceidwadwyr - Canol a Gorllewin Cymru)
- Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol - Gogledd Cymru)
- Angela Burns (Ceidwadwyr - Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
- Rosemary Butler (Llafur - Gorllewin Casnewydd)
C
- Alun Cairns (Ceidwadwyr - Gorllewin De Cymru)
- Christine Chapman (Llafur - Cwm Cynon)
- Jeffrey Cuthbert (Llafur - Caerffili)
D
- Jane Davidson (Llafur - Pontypridd)
- Andrew Davies (Llafur - Gorllewin Abertawe)
- David Davies (Ceidwadwyr - Mynwy)
- Janet Davies (Plaid Cymru - Gorllewin De Cymru)
- Jocelyn Davies (Plaid Cymru - Dwyrain De Cymru)
- Paul Davies (Ceidwadwyr - Preseli Penfro)
E
- Dafydd Elis Thomas (Plaid Cymru - Dwyfor Meirionnydd)
F
- Alun Ffred Jones (Plaid Cymru - Arfon)
- Lisa Francis (Ceidwadwyr - Canol a Gorllewin Cymru)
G
- Michael German (Democratiaid Rhyddfrydol - Dwyrain De Cymru)
- Brian Gibbons (Llafur - Aberafan)
- Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru - Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
- William Graham (Ceidwadwyr - Dwyrain De Cymru)
- Janice Gregory (Llafur - Ogmore)
- John Griffiths (Llafur - Dwyrain Casnewydd)
- Lesley Griffiths (Llafur - Wrecsam)
H
- Edwina Hart (Llafur - Gŵyr)
- Jane Hutt (Llafur - Bro Morgannwg)
I
- Mark Isherwood (Ceidwadwyr - Gogledd Cymru)
J
- Irene James (Llafur - Islwyn)
- Owen John Thomas (Plaid Cymru - Canol De Cymru)
- Ann Jones (Llafur - Dyffryn Clwyd)
- Carwyn Jones (Llafur - Pen-y-bont ar Ogwr)
- Elin Jones (Plaid Cymru - Dyffryn Clwyd)
- Gareth Jones (Plaid Cymru - Aberconwy)
- Helen Mary Jones (Plaid Cymru - Llanelli)
L
- Trish Law (Ann. - Blaenau Gwent)
- Huw Lewis (Llafur - Merthyr Tudful a Rhymni)
- Dai Lloyd (Plaid Cymru - Gorllewin De Cymru)
- Val Lloyd (Llafur - Dwyrain Abertawe)
M
- David Melding (Ceidwadwyr - Canol De Cymru)
- Sandy Mewies (Llafur - Delyn)
- Darren Millar (Ceidwadwyr - Gorllewin Clwyd)
- Jonathan Morgan (Ceidwadwyr - Gogledd Caerdydd)
- Rhodri Morgan (Llafur - Gorllewin Caerdydd)
N
- Lynne Neagle (Llafur - Torfaen)
R
- Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol - Canol Caerdydd)
- Janet Ryder (Plaid Cymru - Gogledd Cymru)
S
- Carl Sargeant (Llafur - Alun a Glannau Dyfrdwy)
- Karen Sinclair (Llafur - De Clwyd)
T
- Gwenda Thomas (Llafur - Castell-nedd)
W
- Brynle Williams (Ceidwadwyr - Gogledd Cymru)
- Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol - Brycheiniog a Sir Faesyfed)
- Leanne Wood (Plaid Cymru - Canol De Cymru)
- Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru - Ynys Môn)
[golygu] Gweler hefyd
- Rhestr o etholaethau Cymru
[golygu] Cysylltiadau allanol
Pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru | ||||||||
|