Mark Tami
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Mark Richard Tami (ganed 3 Hydref, 1962). Mae'n Aelod Seneddol Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy yn senedd San Steffan, a etholwyd am y tro cyntaf yn 2001. Bu'n swyddog i'r undeb Amicus (AEEU). Cafodd ei ail ethol ym Mai 2005.
Gyda'i gyd-aelodau seneddol o Gymry Ian Lucas a Wayne David, safodd i lawr fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Dawn Primarolo ar 6 Medi 2006, am fod Tony Blair yn gwrthod rhoi dyddiad ei ymddeolaeth fel prif weinidog.
Ar fwy nag un achlysur mae Mark Tami wedi bod yn feirniadol iawn o Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.
[golygu] Cysylltiad Allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
Rhagflaenydd: Barry Jones |
Aelod Seneddol dros Alun a Glannau Dyfrdwy 2001 – presennol |
Olynydd: deiliad |