Richard Brunstrom
Oddi ar Wicipedia
Richard Brunstrom yw pennaeth Heddlu Gogledd Cymru. Ers iddo ymgymeryd â'i swydd fel Prif Gwnstabl mae wedi dod yn ffigwr cyhoeddus amlwg gyda barn ddi-flewyn ar dafod. Mae ei sylwadau am statws yr iaith Gymraeg wedi ennyn ymateb brwd gan rai, gan gynnwys ymgyrchwyr iaith, ond beirniadaeth gan eraill, e.e. Mark Tami, AS Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae'r bardd adnabyddus Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru (2006-07), wedi sgwennu cerdd yn moli agwedd y prif gwnstabl tuag at Gymru a'r iaith; fe'i cyhoeddwyd yn Y Glas, papur yr heddlu.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gyrfa
[golygu] Gyrfa gynnar
Ar ôl graddio mewn sŵoleg dechreuodd ar yrfa yn yr heddlu pan ymunodd â Heddlu Sussex fel cwnstabl yn 1979. Treuliodd 11 mlynedd yno. Yn 1990 symudodd i Heddlu Manceinion Fwyaf a chafodd swydd fel Uwch Arolygydd ac wedyn fel Rheolwr Ardal. Yn 1995 aeth i Heddlu Cleveland a chafodd swydd fel Dirprwy Prif Gwnstabl yno.
[golygu] Heddlu Gogledd Cymru
Symudodd i Heddlu Gogledd Cymru yn 2000. Yn Ionawr 2001 cafodd ei wneud yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Mae Brunstrom yn ffigwr dadleuol byth ers hynny. Mae nifer o yrrwyr wedi ei feirniadu am ei ymgyrchoedd yn erbyn gyrrwyr cyflym, gan gynnwys cynyddu'n sylweddol y nifer o gamerau traffig, ond mae ystadegau'n dangos fod ardal Gogledd Cymru yn mwynhau un o'r recordiau gorau am ddiogelwch ar y ffordd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon erbyn hyn. Mae wedi cymryd camau dadleuol ym maes rheoli cyffuriau anghyfreithlon hefyd, e.e. trwy osod mannau cyfnewid syringes y tu allan i orsafoedd heddlu fel arbrawf.
Ond efallai ei fod wedi gwneud ei gyfraniad mwyaf ym maes y defnydd o Gymraeg yn Heddlu Gogledd Cymru. Cafodd ei eni'n Sais a doedd ganddo ddim gair o Gymraeg pan ymgymerodd â'i swydd newydd yn 2001. Ond gaddodd y byddai'n dysgu'r iaith pan gafodd ei ddyrchafu'n Brif Gwnstabl yn 2001 ac ers hynny mae wedi ennill 'Lefel A', gradd A, yn y Gymraeg ac yn ddigon hyderus i'w defnyddio'n gyhoeddus fel rhan o'i swydd. Lawnsiodd gylchgrawn dwyieithog Y Glas sy'n cael ei dosbarthu'n rhad ac am ddim i gartrefi yn y gogledd ac mae wedi codi proffeil ymarferol yr iaith yn yr heddlu.
Ym Medi 2007 cytunodd i gael ei saethu gan wn taser gydag ergyd drydanol o 50 000 V ynghylch cynllun gan Heddlu'r Gogledd i ddefnyddio nhw mewn ardaloedd gwledig.[1] Cafodd fideo o hyn ei roi ar wefan yr heddlu.[2]
[golygu] Cynhadledd Cymuned 2007
Ar 14 Ebrill 2007, mewn ymateb i wahoddiad gan y mudiad, anerchodd cynhadledd flynyddol Cymuned ym Mhenrhyndeudraeth. Gan siarad yn hyderus yn Gymraeg, galwodd ar bawb sy'n byw yng Nghymru neu sy'n bwriadu symud i'r wlad ddysgu Cymraeg. Galwodd hefyd am uwchraddio'r Ddeddf Iaith bresennol a normaleiddio'r defnydd o Gymraeg yn y gymdeithas. Dywedodd ei fod yn credu fod ganddo ddyletswydd cyfreithiol yn rhinwedd ei swydd i hyrwyddo'r Gymraeg. Cyfeiriodd yn ogystal at agwedd rhai Saeson tuag at Gymru fel "agweddau imperialaidd" fel petasai "Cymru ar ryw orwel bellenig". Ychwanegodd: "Wales is a country of its own and doesn't correspond to a region of England. The huge majority of English people including politicians can't accept this." Cafodd ei araith ei gymeradwyo'n frwd gan y cynhadleddwyr.[3]
[golygu] Ffraeon eraill
Ar 26 Ebrill 2007 cynhaliwyd cynhadledd i'r wasg am ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd. Dangoswyd sleidiau digon cignoeth o anafiadau, ac yn arbennig llun o feiciwr heb ben ar ôl cael damwain. Cyhoeddodd un o'r gohebion fu'n bresennol y stori, yn groes i'w addewid, a thorrodd ffrae newydd allan. Mae teulu'r beiciwr, a fu farw ar ôl damwain yn y Gogledd, yn galw ar Brunstrom i ymddiswyddo am na rhoddwyd caniatad i ddangos y lluniau ac yn ystyried achos llys yn ei erbyn. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymddiheuro.[4]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ 'Sioc fawr' i Brif Gwnstabl. BBC Cymru'r Byd. BBC (6 Medi, 2007).
- ↑ (Saesneg) Chief Constable's Blog: An interesting experience!
- ↑ Daily Post, Ebrill 16, 2007
- ↑ [1] Daily Post 30.04.07