Michel de Montaigne
Oddi ar Wicipedia
Awdur o Ffrainc oedd Michel Eyquem de Montaigne (28 Chwefror 1533 - 13 Medi 1592). Ei waith enwocaf yw'r Essais ('Traethodau'), cyfres hir o fyfyrdodau, mewn tair cyfrol, sy'n ymdreiddio i natur y meddwl dynol ac yn rhoi portread cofiadwy o'r awdur ei hun dros y blynyddoedd. Daethant yn boblogaidd iawn a chyhoeddwyd dros gant o argraffiadau. Ar sawl ystyr, yr Essais oedd sail blodeuo athroniaeth yn Ffrainc yn yr 17eg ganrif a arweiniodd yn ei dro at Oleuedigaeth y 18fed ganrif.
Cafodd ei eni yn y château de Montaigne yn Périgord, yn fab i Pierre Eyquem, maer Bordeaux, Aquitaine. Cyfaill y bardd Étienne de la Boétie oedd ef. Bu farw Boétie yn 1563 a phriododd Montaigne ei weddw yn 1565.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Essais (1580)