Morgan Owen
Oddi ar Wicipedia
Clerigwr o Gymro a ddaeth yn Esgob Llandaf oedd Morgan Owen (1583 - Ionawr 1645). Roedd yn frodor o bentref Myddfai, Sir Gaerfyrddin.
Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, o 1608 hyd 1616, gan ennill gradd BA ac MA. Tyfodd gyfeillgarwch rhyngddo a William Laud (Archesgob Caergaint yn ddiweddarach) a phan ddaeth Laud yn esgob Tyddewi penododd Owen yn gaplan iddo.
Cafodd Morgan Owen ei benodi'n esgob Llandaf yn 1639, ond roedd ymhlith yr esgobion a gafodd eu carcharu am gefnogi'r Archesgob Laud ym 1644. Cafodd ei ddiarddel o'i swydd gan y Piwritaniaid oherwydd ei gydymdeimlad â Laud a hefyd am iddo godi porth arddull baróc yn Eglwys y Santes Mair Prifysgol Rhydychen, ynghyd â cherflun "Pabaidd" o'r Forwyn Fair a'r Baban Iesu.
Cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys plwyf ei Fyddfai enedigol.