Myddfai
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Myddfai. Saif ar odre gogleddol y Mynydd Du ac ychydig i'r de o dref Llanymddyfri, gyda Mynydd Myddfai i'r dwyrain.
Yn yr Oesoedd Canol roedd Myddfai yn un o faenorau y Cantref Bychan ac yn ddiweddarach yn rhan o Arglwyddiaeth Llanymddyfri.
Daeth y pentref yn enwog fel cartref Meddygon Myddfai, a gysylltir a chwedl Llyn y Fan Fach. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Mihangel, ac mae Morgan Owen, Esgob Llandaf yn y 17eg ganrif, oedd yn frodor o'r pentref, wedi ei gladdu o'i mewn.
Yn 2007 adroddwyd bod y Tywysog Siarl wedi prynu tŷ Llwynywermwd gerllaw. Cafwyd cryn feirniadu ar ei fwriad i osod y tŷ fel cartref gwyliau.