Mortimer Wheeler
Oddi ar Wicipedia
Un o archaeolegwyr enwocaf yr ugeinfed ganrif ym Mhrydain oedd Syr Robert Eric Mortimer Wheeler (1890 - 1976). Ysgrifennodd nifer o gyfrolau academaidd a phoblogaidd ar archaeoleg.
Fe'i ganwyd yn Glasgow yn 1890, a mynychodd Prifysgol Llundain.
Yn 1920 fe'i penodwyd fel cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.
[golygu] Gwaith archaeolegol
Mae ei waith cloddio yn cynnwys safleoedd Celtaidd o'r cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain, er enghraifft Maiden Castle, gwaith ar is-gyfandir India fel cyfarwyddwr Arolwg Archaeolegol India (1944 - 1948), er enghraifft ym Mohenjo-daro, un o brif safleoedd Gwareiddiad Dyffryn Indus, ac ym Mesopotamia (er enghraifft yn Ur).
[golygu] Llyfryddiaeth
Ymysg llyfrau Wheeler mae:
- The Indus Civilization (Caergrawnt, 1963)
- The excavation of Maiden Castle, Dorset : second interim report (1936).
- Five thousand years of Pakistan; an archaeological outline (1950).
- Reports of the Research Committee of the Society of Antiquaries of London No.XVII: The Stanwick Fortifications, North Riding of Yorkshire (1954).
- Archaeology from the earth (1954).
- Roman art and architecture (1964).
- Civilizations of the Indus Valley and beyond (1966).
- Still Digging (Michael Joseph Ltd., 1955; argraffiad newydd, Pan Books, Llundain, 1958)
Bywgraffiad:
- Clark, Ronald William Sir Mortimer Wheeler (Roy Publishers, New York, 1960)