Moses
Oddi ar Wicipedia
Arweinydd crefyddol Beiblaidd o Iddew o'r 13eg ganrif CC y ceir ei hanes yn yr Hen Destament yn bennaf oedd Moses (Hebraeg: מֹשֶׁה; Hebraeg Cyffredin: Moshe; Hebraeg Tiberiaidd: Mōšeh; Arabeg: موسىٰ, Mūsa Ge'ez: ሙሴ Musse) [1]. Roedd yn rhoddwr cyfraith, proffwyd, ac arweinydd milwrol, ac ef a gyfrifir, yn ôl traddodiad, fel awdur y Torah (y Pentateuch). Mae Moses yn broffwyd pwysig yn Iddewiaeth[2], Cristnogaeth, Islam[3], y grefydd Bahá'í, Mormoniaeth, Rastafariaeth, a Raeliaeth[4], a sawl traddodiad arall.
Yn yr Hen Destament ceir ei hanes yn bennaf yn Llyfr Ecsodus. Arweiniodd yr Hebreiaid o alltudiaeth yn Yr Aifft i Wlad yr Addewid.