Mu Arae
Oddi ar Wicipedia
Mae Mu Arae (μ Ara / μ Arae) yn seren oren-felyn wedi ei lleoli rhyw 50 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng ghytser Ara. Mae gan y seren ei chysawd planedol ei hun sy'n cynnwys o leia' pedair planed. Amcangyfrifir ei bod ychydig yn fwy na'r Haul ac oherwydd yr wmbredd o haearn credir ei bod yn ddwywaith yn fwy cyfoeth o ran elfennau trwm na'r Haul. Mae radiws y seren 31.5% yn fwy na'r Haul, ei golau 75% yn fwy disglair, ond mae ei thymheredd o ryw 5800 K yn debyg iawn i'n Haul ni.