Mu Arae b
Oddi ar Wicipedia
Mae Mu Arae b yn blaned allheulol sy'n cylchio'r seren Mu Arae. Mae'r blaned yn gawr nwy sydd o leia' 50% yn fwy na Iau ac mae'n cylchio'r seren o fewn ei hardal drigiadwy, sy'n codi'r posibilrwydd bod gan y blaned loerennau mawr sy'n gallu cynnal bywyd. Mae hi'n cymryd 643.25 o ddyddiau i gylchio'r seren.