Muhammad Ahmad al-Mahdi
Oddi ar Wicipedia
Roedd Muhammad Ahmad al-Mahdi neu al-Mahdi (1844 - Mehefin, 1885) yn arweinydd gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Prydain yn y Sudan.
[golygu] Ei hanes
Cafodd weledigaeth gyfriniol a chredodd mai ei genhadaeth oedd arwain ei bobl i ryddid. Datganodd ei fod y Mahdi a chywynodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth yr Aifft (a reolai Sudan yn enw Prydain). Cipiodd Khartoum o ddwylo'r Cadfridog Gordon ym mis Ionawr 1885 ond bu farw rhai misoedd yn ddiweddarach yn Omdurman, efallai o golera.
Cafodd y Mahdi ei ddemoneiddio gan haneswyr poblogaidd cyfnod yr ymerodraeth.
[golygu] Al-Mahdi
Ystyr y gair Arabeg al-Mahdi yw "Yr Un Sy'n Cael ei Dywys". Teitl crefyddol yn nhraddodiad Islam ydyw. Gellid cymharu'r cred yn y Mahdi â chred rhai Cristnogion yn ail-ddyfodiad y Meseia.
Mae tref Mahdia yn Tunisia yn dwyn yr enw.