Mynydd Du (Mynwy)
Oddi ar Wicipedia
- Am y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin, gweler Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin).
Mae'r Mynyddoedd Duon yn grŵp o fryniau yn ne-ddwyrain Cymru; gorwedd y rhan fwyaf o'r bryniau ym Mhowys a gogledd Sir Fynwy, ond mae rhan yn gorwedd yn Swydd Henffordd yn ogystal. Ffurfiant y mwyaf dwyreiniol o'r tri grŵp o fryniau sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; ni ddilyd eu cymysgu â'r grŵp mwyaf gorllewinol a elwir yn Fynydd Du na'r copa yn y Mynydd Du a elwir yn Fynydd Du hefyd. Gellir eu diffinio fel y bryniau sy'n gorwedd i'r gogledd o'r Fenni, i'r de o'r Gelli Gandryll, i'r dwyrain o lôn yr A479 (cwm Rhiangoll) ac i'r gorllewin o'r ffin â Lloegr. Ymlwybra Llwybr Clawdd Offa ar hyd y ffin ar eu hymyl dwyreiniol.
Waun Fach (811 m) yw'r mynydd uchaf; mae bryniau eraill yn cynnwys Pen y Gadair Fawr, Pen-y-fâl, Ysgyryd Fawr, Mynydd Troed, Graig Syfyrddin, Allt yr Esgair, Myarth, Mynydd Llangors, Bryn Arw, a Mynydd Du.
Ychydig iawn o bentrefi a geir yn yr ardal fynyddig hon. Roedd hostel ieuenctid adnabyddus yng Nghapel-y-ffin, ond mae hon wedi cau achos bod y C.H.I. (YHA) yn hoffi cau hostelau.
Mae'r hynafiaethau yn cynnwys Priordy Llanddewi Nant Hodni, castell Tretŵr, y bryngaer o Oes yr Haearn ar Grug Hywel, a Castell Dinas (11eg ganrif - 13eg ganrif).
[golygu] Ffuglen
- People of the Black Mountains, gan Raymond Williams
- On The Black Hill, gan Bruce Chatwin