Bryngaer
Oddi ar Wicipedia

Caer a adeiladwyd ar ben bryn fel adeilad amddiffynol yw bryngaer. Mae ei ffurff yn dilyn ffurff y bryn a fel arfer mae rhagfur a ffos o gwmpas ef. Codwyd bryngaerau mewn cyfnodau wahanol ac i bwrpas wahanol (nid yn unig am amddiffyn, ond i gadw anifeiliaid, hefyd), ond yng Nhgymru adeiladwyd mwyafrif ohonyn yn yr Oes Haearn, er enghraifft Bryngaer Llwyn Bryn-dinas ger Llangedwyn, y Breiddin, Moel y Gaer a Dinorben. Mae bryngaerau ledled Ewrop ac yn gwledydd eraill hefyd, er enghraifft codwyd rhai yn Seland Newydd gan y Maori.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bryngaerau Canolbarth Ewrop
Mae bryngaerau hynaf canolbarth Ewrop yn dyddio o'r oes Neolithig, ond mae'r mwyafrif yn dyddio o gyfnod y diwylliant Urnfield yn Oes yr Efydd) a'r diwylliant Hallstatt yn Oes yr Haearn, ond adeiladwyd rhai ar ôl goruchafiaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, hefyd. Roedd Iŵl Cesar yn crybwyll y bryngaerau Celtaidd a welodd yn ystod ei ymgyrchoedd o dan yr enw oppida.
[golygu] Bryngaerau Prydain ac Iwerddon
Cartrefi a gwersyllfeydd milwrol o Oes yr Haearn cyn y goresgyniad Rhufeinig yw bryngaerau Prydain. Defnyddiwyd rhai eto yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur y bryngaerau ym Mhrydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43. Yn yr ardaloedd lle na chafwyd dylanwad Rhufeinig (e.e. yn Iwerddon a gogledd yr Alban) adeiladid bryngaerau am ganrifoedd ar ôl hynny. Defnyddiodd yr Eingl-Sacsoniaid rhai o'r hen fryngaerau yn ystod goresgyniad y Llychlynwyr.
[golygu] Bryngaerau yn Ffrainc
Mae Bibracte (Mont Beuvray) a Mont St. Odile (Mur Païen) yn fryngaerau enwog yn Ffrainc ac mae gwarchae bryngaer Alesia lle cafodd Vercingetorix ei orchfygu gan Iŵl Cesar yn enwog iawn hefyd.
[golygu] Enghreifftiau
- Braich-y-Dinas, Conwy
- Caer Seion, Conwy
- Danebury, Hampshire
- Dinas Emrys, Gwynedd
- Maiden Castle, Dorset
- Hen Groesoswallt, Swydd Amwythig
- Hen Sarum, Wiltshire
- De Cadbury, Gwlad yr Haf
- Heuneburg, Yr Almaen
- Trapain Law, Dwyrain Lothian
- Tre'r Ceiri, Llŷn
- Castell Uffington, Swydd Rydychen
- Din Gwrygon, Swydd Amwythig