Mynydd St. Helens
Oddi ar Wicipedia
Llosgfynydd yn nhalaith Washington yng ngogledd-orllewin yr Unol Daleithiau yw Mynydd St Helens (2950m). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y dalaith yng nghadwyn y Cascades. Ffrwydrodd yn 1980 gan achosi difrod sylweddol iawn.
[golygu] Achosion ei echdoriad
Y ddau blât tectonig a achosodd greuad St Helens yw Plât Juan de Fuca, y gramen gefnforol a wnaeth symud i'r dwyrain, a gafodd ei ddal i fyny gan Blât Gogledd America, y gramen gyfandirol, a gafodd ei phlygu tuag at i lawr. Creuwyd ffrithiant rhwng y dau blât yma a cynhyrchwyd daeargrynfeydd, ac oherwydd bod y tymheredd yn codi gafodd y gramen gefnforol ei dinistrio. Ar hyd y blynyddoedd dechreuodd fwy a mwy o fagma codi o'r gramen, ac, yn y diwedd cafwyd y gadwyn o losgfynyddoedd sy'n cynnwys Mynydd St Helens.
[golygu] Ffrwydriad 1980
Yn y lafa ar ôl ffrwydriad 1980, darganfuwyd olion traed rhywun neu rywbeth, naill ai anifail neu blentyn bach yn ceisio osgoi'r lafa poeth.