Llosgfynydd
Oddi ar Wicipedia
Mae llosgfynydd (mynydd tân) yn tyfu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi ffrwydriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 100km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lydw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys creigiau a nwy.
Gelwir y creigiau sydd yn ffurfio o achos ffrwydriadau folcanig yn Greigiau Igenaidd, er enghraifft Basalt neu Gwenithfaen.
Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.
[golygu] Llosgfynyddoedd Cymru
Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er engraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.
[golygu] Llosgfynyddoedd y Byd
Rhai o losgfynyddoedd enwog y ddaear yw:
- Etna (yr Eidal)
- Hekla (Gwlad yr Iâ)
- Krakatoa (Rakata, Indonesia)
- Mauna Loa (Hawaii, UDA)
- Mauna Kea (Hawaii, UDA)
- Erebws (Ynys Ross, Antarctica)
- Fuji (Honshu, Siapan)
- Mount Rainier (Washington, UDA)
- Mount St. Helens (Washington, UDA)
- Unzen (Kyushu, Siapan)
- Novarupta (Alaska, UDA)
- Popocatépetl (Mecsico)
- Surtsey (Gwlad yr Iâ)
- Santorini (Ynys Santorini, Gwlad Groeg)
- Tambora (Sumbawa, Indonesia)
- Teide (Teneriffa, Sbaen)
- Vesuvio (Yr Eidal)