Mynydd Vesuvius
Oddi ar Wicipedia
Mynydd Vesuvius Llosgfynydd |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Vesuvius o'r awyr |
Uchder | 1,281m (4,203 troedfedd) |
Gwlad | Yr Eidal |
Llosgfynydd yn yr Eidal yw Mynydd Vesuvius (Eidaleg: Monte Vesuvio, Lladin: Mons Vesuvius). Saif rhyw 9 km i'r dwyrain o ddinas Napoli. Ef yw'r unig losgfynydd ar dir mawr Ewrop i ffrwydro yn ystod y can mlynedd diwethaf; mae'r ddau losgfynydd arall yn yr Eidal, Etna a Stromboli, ar ynysoedd.
Mae Vesuvius yn fwyaf adnabyddus am y ffrwydrad yn 79 OC, a ddinistriodd drefi Pompeii a Herculaneum. Ffrwydrodd lawer tro ers hynny; bu ffrwydrad yn 1944.
Cyhoeddwyd yr ardal o amgylch y mynydd yn barc cenedlaethol ar 5 Mehefin 1995. Mae ffordd sy'n arwain o fewn 200 medr i'r copa, ond wedi hynny rhaid cerdded.