Etna
Oddi ar Wicipedia

Golygfa ar Etna o dref Taormina, Sicilia
Lleoliad Etna ar Ynys Sicilia (y smotyn gwyn)
Llosgfynydd yn nwyrain Ynys Sisili (Sicilia) yn yr Eidal yw Etna. Mae ganddo un crater canolog a tua 200 o grateri llai o'i gwmpas. Uchder y llosgfynydd yw 3263m (10,705 troedfedd).
Cofnodiwyd y ffrwydriad hanesyddol cyntaf yn y flwyddyn 476 CC. Yn yr 20fed ganrif cafwyd ffrwydriadau sylweddol yn 1928, 1949 a 1971.