NDTV 24x7
Oddi ar Wicipedia
Mae NDTV 24x7 yn un o sianeli teledu iaith Saesneg mwyaf India, sy'n perthyn i New Delhi Television Ltd (NDTV). Mae'n sianel annibynnol sydd y cynhyrchwr newyddion a materion cyfoes preifat mwyaf yn India. Mae'n darlledu 24 awr y dydd trwy'r wythnos (24x7). Enillodd Gwobr Teledu Asia 'Sianel Newyddion Gorau' yn 2005.
Mae gan NDTV 24x7 dîm o newyddiadurwyr teledu blaenllaw sy'n cynnwys Dr. Prannoy Roy a Barkha Dutt.
Yn ogystal â newyddion mae NDTV 24x7 yn cynhyrchu rhaglenni dogfen gwreiddiol ac adroddiadau arbennig.
Gellir gwylio NDTV 24x7 mewn sawl gwlad arall y tu allan i India, e.e. ar blatfform Sky Digital yng ngwledydd Prydain, ar DirecTV yn yr Unol Daleithiau, ar ATN yng Nghanada, Vision Asia yn Awstralia, ac yn Ewrop ar WorldTV.