Nièvre
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yng nghanolbarth y wlad, yw Nièvre. Prifddinas y département yw dinas hanesyddol Nevers. Mae'n ffinio â départements Saône-et-Loire ac Allier i'r de, Cher i'r gorllewin a Yonne a Côte-d'Or i'r gogledd. Llifa Afon Loire trwy gornel de-orllewinol y département.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Château-Chinon
- Clamepy
- Cosne-sur-Loire
- Nevers