Nia Griffith
Oddi ar Wicipedia
Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Llanelli yw Nia Rhiannon Griffith (ganwyd 4 Rhagfyr, 1956).
Daw ei theulu o bentrefi glofaol ger Castell Nedd. Ganwyd hi yn Nulyn yn yr Iwerddon a'i hyddysgu yn Ysgol Uwchradd Newland yn Hull a Choleg Somerville, Rhydychen. Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Ieithoedd Modern yno. Dilynodd gwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a bu yn athrawes, yn ymgynghorydd addysg ac Arolygwr Estyn cyn dod yn Aelod Seneddol. Mae'n medru siarad pum iaith: Cymraeg; Saesneg; Eidaleg; Ffrangeg a Sbaeneg.
Fe etholwyd Nia i'r Tŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, yn dilyn ymddeoliad Denzil Davies. Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 7,234 o bleidleisiau. Traddododd ei haraith gyntaf yn y Ty Cyffredin ar Fai’r 19eg, 2005 [1]. Yn y Senedd, mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ogystal â’r Pwyllgor Archwilio Ewropeaidd.
Ymunodd Nia Griffith a’r Blaid Lafur ym 1981. Yn y gorffennol, bu hi’n Ysgrifenyddes Plaid Lafur Sir Gaerfyrddin. Etholwyd hi yn Gynghorydd i Gyngor Tref Caerfyrddin ym 1987. Gwasanaethodd fel Siryf ym 1997 a Dirprwy Faer ym 1998. Ei phrif ddiddordebau gwleidyddol yw Ewrop a’r amgylchedd.
[golygu] Cyhoeddiad
- 100 Ideas for Teaching Languages by Nia Griffith, 2005, Continuum International Publishing Group ISBN 0826485499
[golygu] Dolennu
Rhagflaenydd: Denzil Davies |
Aelod Seneddol dros Lanelli 2005 – presennol |
Olynydd: deiliad |