Caerfyrddin
Oddi ar Wicipedia
Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin |
|
Caerfyrddin yw tref sirol Sir Gaerfyrddin, ar lan Afon Tywi. Mae ganddi boblogaeth o tua 20,000.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Adeiladwyd Caerfyrddin ar safle caer Rufeinig Maridunum. Yn ddiweddarach cysylltiwyd y dref â'r dewin chwedlonol Myrddin. Un o'i broffwydoliaethau oedd y byddai'r dref yn sefyll tra bod y goeden dderwen hynafol oedd yn nghanol y dref yn sefyll, ond y byddai'r dref yn boddi pe byddai'n syrthio. Mae'r hen dderwen bellach yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili.
Adeiladwyd castell yno yn y 12fed ganrif ac mae peth o'r olion yno o hyd. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerfyrddin yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Yn y 13eg ganrif ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf, ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, sefydliad crefyddol Awstinaidd. Yn 1234 cafodd y tywysog ifanc Rhys Gryg o Ddeheubarth glwyf angerddol mewn brwydr ger y dref a bu farw ymhen ychydig yn Llandeilo.
Ar 30 Mawrth, 1555, yn nheyrnasiad Mari Tudur, cafodd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, ei losgi wrth y stanc yn sgwar y farchnad ar ôl cael ei gyhuddo o heresi a dangos gormod o gariad tuag at y Cymry.
Adlewyrchir pwysigrwydd Caerfyrddin ym myd amaeth Cymru gan y ffaith y cafodd Undeb Amaethwyr Cymru ei sefydlu yn y dref yn 1955.
Mae Coleg y Drindod Caerfyrddin yn y dref hefyd.
[golygu] Enwogion
- John Nash - pensaer enwog
- Stephen Jones - capten tîm rygbi'r undeb Cymru
[golygu] Yr Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin ym 1911 a 1974. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1911
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974
[golygu] Gefeilldref
Mae Caerfyrddin wedi ei hefeillio â thref Lesneven yn Llydaw.