Nigel Owens
Oddi ar Wicipedia
Dyfarnwr rygbi yw Nigel Owens (ganed 18 Mehefin 1971). Cafodd ei eni ym Mynyddcerrig, ger Llanelli. Daeth yn ddyfarnwr rhyngwladol yn 2005. Y gêm ryngwladol gyntaf iddo ddyfarnu oedd yr un rhwng Iwerddon a Japan yn Osaka. Fe yw'r unig Gymro fydd yn dyfarnu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc.
Mae'n dyfarnu'n gyson yng Nghwpan Heineken.