Nouri al-Maliki
Oddi ar Wicipedia
Nouri Kamel Mohammed Hassan al-Maliki (Arabeg: نوري كامل المالكي, Nūrī Kāmil al-Mālikī; ganed c. 1950 yn Al Hindiyah, Irac), a adnabyddir hefyd fel Jawad al-Maliki, yw Prif Weinidog Irac. Mae'n Fwslim Shia, ac yn is-arweinydd y Blaid Dawa Islamaidd. Cymerodd Al-Maliki a'i lwydodraeth drosodd yn lle Llywodraeth Dros Dro Irac (arweinwyd gan Ibrahim al-Jaafari). Cafodd ei gabinet 37 aelod ei gadarnhau gan Cynulliad Cenedlaethol Irac ar 20 Mai, 2006.
Bydd mandad cyfansoddiadol Al-Maliki yn rhedeg hyd 2010. Ar 26 Ebrill, 2006, cyhoeddodd swyddfa al-Maliki y byddai o hynny ymlaen yn defnyddio'r enw cyntaf Nouri (neu Nuri, "Goleuni" yn Arabeg) yn lle ei hen lysenw Jawad.[1]
[golygu] Rhagolygon ei lywodraeth
Mae sefydlogrwydd ac effeithiolrwydd llywodraeth al-Maliki yn dibynu i gryn raddau ar yr heddwch bregus rhwng Moqtada al-Sadr, sy'n rheoli un o'r blociau mwyaf yn y senedd, ac Abdul Aziz al-Hakim, arweinydd Cynghrair Unedig Irac a'r grwp Shia grymus, Cyngor Uchaf y Chwyldro Islamaidd yn Irac. Mae cefndir o ymrafael teuluol rhwng y ddau ddyn a'u teuluoedd sydd wedi arwain at wrthdaro ar y stryd rhwng eu milisias o bryd i'w gilydd.[2]
Mae ansicrwydd ynglŷn â pharodrwydd a gallu al-Maliki i reoli'r milisias Shia. Yn Hydref 2006, beirniadodd cyrch gan yr Americanwyr yn erbyn arweinydd milisia am iddo gael ei wneud heb ei ganiatâd a'i fendith.[3]
Ar 2 Ionawr, 2007, mewn cyfweliad i'r Wall Street Journal dywedodd al-Maliki nad oedd eisiau'r swydd yn y lle cyntaf a'i fod wedi'i derbyn allan o synnwyr dyletswydd yn unig. Ychwanegodd y buasai;n dda ganddo orffen ei dymor fel prif weinidog cyn iddo ddod i ben yn 2009.[4]
Mae bloc aelodau seneddol Moqtada al-Sadr wedi cyhoeddi (15 Ebrill, 2007) eu bod yn tynnu allan o gabinet al-Maliki am nad yw'n barod i osod amserlen ar gyfer tynnu'r milwyr estron allan o Irac."[5]