O Law i Law
Oddi ar Wicipedia
Mae O Law i Law yn nofel Gymraeg gan T. Rowland Hughes, am fywyd chwarelwyr a'u teuluoedd mewn pentref chwarel llechi yng ngogledd Cymru. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1943.
Mae'r teitl yn fenthyciad o'r ymadrodd adnabyddus "(byw) o law i law", ac yn cyfeirio at galedi bywyd y chwarelwyr, ond mae'n drosiad hefyd sy'n adlewyrchu un arall o brif themau'r nofel, bod diwylliant a gwerthoedd yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth er gwaethaf pawb a phopeth.