Owain Meirion
Oddi ar Wicipedia
Baledwr oedd Owain Meirion neu Owen Gruffydd (1803 - 22 Mehefin, 1868), a anwyd yn Y Bala.
Ni wyddom lawer am ei gefndir na'i flynyddoedd cynnar ond mae'n amlwg wrth ei waith ei fod wedi dysgu darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Yn wahanol i nifer o faledwyr y 19eg ganrif roedd Owain yn canu ar y mesurau caeth yn ogystal â'r mesurau rhydd pbologaidd. Yr oedd hefyd yn canu gyda'r tannau.
Bywyd digon llwm a gafodd, serch hynny. Treuliodd ddeugain mlynedd yn crwydro'r ffeiriau o Fôn i Fynwy ond pan aeth yn rhy hen bu rhaid iddo fyw 'ar y plwy' mewn tŷ bychan yn Llanbrynmair:
-
- 'Byw ar dri swllt, bron d'rysu, - am wythnos
- A methu trafaelu;
- Drudaniaeth yn dirdynu
- I'm herbyn er dychryn du.'
Canai ar y pynciau poblogaidd oedd yn rhan o stoc y baledwyr, fel 'Suddo'r Royal Charter'. Byddai'n sefyll mewn ffair yn pwyso ar ei bastwn tra'n datgan ei gerddi a chynnig copïau i'w prynu.
Bu farw ar 22 Mehefin, 1868, yn 65 mlwydd oed. Er ei fod yn ddyn tlawd cafodd cofeb weddus iddo yn Llanbrynmair, diolch i ymdrechion ffrindiau a beirdd fel Mynyddog, a gyfansoddodd yr englyn coffa sydd ar y gofeb:
-
- 'Baledwr heb waelodion - i'w ddoniau
- Oedd hwn - mae'i wlad dirion
- Yn weddw'n awr am y ddawn hon,
- Yn marw Owain Meirion.'
[golygu] Ffynhonnell
- Robert Griffith, traethawd ar y bardd yn, Deuddeg o Feirdd y Berwyn (Lerpwl, 1910).