Owen Gruffydd
Oddi ar Wicipedia
Bardd, hynafiaethydd, ac achyddwr o blwyf Llanystumdwy, Eifionydd, oedd Owen Gruffydd (c. 1643 - Rhagfyr, 1730). Canai ar y mesurau caeth a'r mesurau rhydd fel ei gilydd a daeth yn fardd poblogaidd yn ei ddydd. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn Blodeu-gerdd Cymry (1759).
Ganed y bardd yn 1643 (fe ymddengys). Yn ôl un traddodiad roedd yn fab perth a llwyn i offeiriad lleol. Roedd yn wehydd o ran ei grefft. Aeth yn ddall yn ystod ei oes. Bu fyw trwy amseroedd tymhestlus iawn, gyda Rhyfel Cartref Lloegr a'r Adferiad yn tarfu ar fywyd y Cymry ym mob rhan o'r wlad. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys plwyf Llanystumdwy ar 6 Rhagfyr 1730, yn henwr o oedran barchus yn yr oes honno, tua 87 oed.
Fel bardd ar y mesurau caeth a ganodd gywyddau ac awdlau i rai o brif deuluoedd Arfon, Llŷn, Eifionydd a Meirionnydd, yr oedd i ryw raddau yn parhau â thraddodiad Beirdd yr Uchelwyr, er nad oedd yn fardd proffesiynol fel y cyfryw. Ond roedd yn fwy adnabyddus yng ngogledd Cymru ar droad y 18fed ganrif am ei gerddi ar y mesurau rhydd, yn enwedig ei garolau duwiol a moseol.
[golygu] Llyfryddiaeth
Cyhoeddwyd rhai o gerddi'r bardd yn y blodeugerddi,
- Carolau a Dyriau Duwiol (1688)
- Blodeu-gerdd Cymry (1759)
Golygwyd detholiad o'i waith gan O. M. Edwards:
- Gwaith Owen Gruffydd (Cyfres y Fil, 1904)
[golygu] Cyfeiriadau
Daw'r cyfeiriadau i gyd o ragymadrodd O. M. Edwards i'w olygiad o waith y bardd.