Owen John Thomas
Oddi ar Wicipedia
Mae Owen John Thomas MA (ganed 1939 Caerdydd) yn gyn-wleidydd Plaid Cymru.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cefndir
Mynychodd Prifysgol Morgannwg a Prifysgol Caerdydd. Gweithiodd fel dirprwy brifathro cyn cael ei ethol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cyn-gadeirydd ardal Caerdydd UCAU. Bu'n aelod gweithredol o Blaid Cymru ers ei arddegau, gan llenwi amryw o swyddi o ysgrifennydd cangen i is-lywydd y blaid. Yng nghynhadledd Plaid Cymru 1981, llwyddodd i gael sosialaeth wei ei gynnwys ymysg prif amcanion y blaid. Mae'n bleidiwr ers cryn amser ar gyfer yr ymgyrch ar gyfer diwygiad y ddeddf eiddo prydles ac yn un o aelodau sefydlu Clwb Ifor Bach (Clwb Gymraeg Caerdydd) ac yn lywydd y clwb o 1983-1989. Dysgodd Gymraeg tra'r oedd yn ei 20iau hwyr. Mae'n briod â chwech o blant.
[golygu] Gyrfa wleidyddol
Aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnyrchioli ardal De Cymru Canolig ar gyfer Plaid Cymru rhwng 1999 a 2007.
Mae rhai o'i ymdrechion balchaf fel aelod seneddol yn cynnwys yr ymgais i adnabod Gŵyl Dewi Sant yn ŵyl banc swyddogol, ei swyddogaeth yng ngreadigaeth Canolfan Mileniwm Caerdydd, man cyfarfod ar gyfer y celfyddydau a agorodd yn 2004; ei ymgyrchion ar gyfer pensiynau Allied Steel and Wire a'i ymgyrch i gael bracitherapi, triniaeth yn erbyn cancr, i Gymru.
Datganodd hefyd y buasai'n gobeithio i'r Cynulliad ennill yr un pŵerau a Senedd yr Alban erbyn 2011.
Ef oedd Is-weinidog Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru, a penderfynnod wrth sefyll am etholaeth yn 2003 mai hwnnw fyddai ei swydd olaf.
[golygu] Yr iaith Gymraeg
Dysgodd Gymraeg tra'r oedd yn ei 20iau hwyr, ac mae wedi dadlau dros gynyddu hyrwyddiad yr iaith, gan ysgrifennu yn y Western Mail fod yr iaith yn ased cenedlaethol ac y gallai ei atgyfodiad chwarae rhan canolig ym mhrosesau mwy'r genedl o adeiladu adfywiad economaidd a chymdeithasol (Saesneg: "The language is a national asset and its revitalisation can play a central part in the larger process of nation building and economic and social regeneration.") Cwynodd yn ogystal fod plant Cymru yn cael eu dysgu am hanes Lloegr ac nid hanes Prydain (Saesneg: "the history of England, not the history of Britain").
[golygu] Dolenni Allanol
- Guardian Unlimited 7 Mawrth 2007, manylion aelodau'r cynulliad nad oedd yn ymgeisio i gael eu hail-ethol.
[golygu] Swyddi
Rhagflaenydd: Swydd Newydd |
Aelod Llywodraeth Cynulliad Cymru ardal De Cymru Canolig 1999 - 2007 |
Olynydd: Chris Franks |