Pab Grigor I
Oddi ar Wicipedia
Grigor I | |
---|---|
![]() |
|
Dyrchafwyd yn Bab | 3 Medi, 590 |
Diwedd y Babyddiaeth | 12 Mawrth, 604 |
Rhagflaenydd | Pab Pelagiws II |
Olynydd | Pab Sabinianws |
Ganed | c. 540 Rhufain |
Bu Farw | 12 Mawrth, 604 Rhufain |
Pab Grigor I, a elwir hefyd yn Grigor Fawr neu Gregori Fawr (c. 540 - 12 Mawrth, 604), oedd Pab Rhufain o 590 hyd ei farwolaeth. Mae'r eglwys yn ei gyfrif yn sant a Thad Eglwysig; ei wylmabsant yw 12 Mawrth. Cafodd ei eni yn Rhufain.
Yn ôl traddodiad, gwelodd gaethweision ifainc o Eingl-Sacsoniaid mewn marchnad caethweision yn Rhufain a phenderfynodd anfon cenhadwr i Brydain i droi'r Eingl-Sacsoniaid yn Gristnogion. Y gŵr a ddewisodd oedd Awstin, a fyddai'n archesgob cyntaf Caergaint yn ddiweddarach.
Roedd Grigor yn ddyn caredig iawn a weithiai i wella cyflwr y tlodion. Yn ogystal gwnaeth lawer i ddiwygio trefn yr eglwys. Roedd hefyd yn awdur yn yr iaith Ladin a ysgrifennodd homilïau ar Eseciel a'r Efengylau, llyfr ar reolau'r eglwys (Cura Pastoralis) a'r gweithiau ar gyfer gwasnanaethau eglwysig y Sacramentarium a'r Antiphonarium.
Rhagflaenydd: Pab Pelagiws II |
Pab 3 Medi 590 – 12 Mawrth 604 |
Olynydd: Pab Sabinianws |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.