Parc Cenedlaethol Doñana
Oddi ar Wicipedia
Saif Parc Cenedlaethol Doñana (Sbaeneg:Parque nacional de Doñana) yn ne-orllewin Sbaen, yng nghymuned ymreolaethol Andalucia, gerllaw aber Afon Guadalquivir. Mae'r rhan fwyaf yn nhalaith Huelva, ac ychydig o'r parc yn nhalaith Sevilla. Mae arwynebedd y parc yn 53,709 hectar. Yn 1994 fe'i cyhoeddwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Ystyrir y parc yn un o warchodfeydd natur pwysicaf Ewrop. Yn y gaeaf, mae tua 200,000 o adar dŵr ar y gwlybdiroedd sy'n rhan helaeth o'r parc. Ymhlith yr amrywiaeth o fywyd gwyllt mae 20 rhywogaeth o bysgodyn, 37 rhywogaeth o famal a 360 rhywogaeth o aderyn, gyda 127 ohonynt yn nythu yno.
Credir fod enw'r parc yn dod o "Doña Ana", sef Doña Ana de Mendoza y Silva, gwraig seithfed Dug Medina Sidonia, Don Alonso Pérez de Guzmán, oedd yn berchennog y tiroedd yma.