Paulinus Aurelianus
Oddi ar Wicipedia
Sant Cymreig o ddiwedd y 5ed ganrif oedd Paulinus Aurelianus, a fu'n weithgar yn bennaf yn Llydaw.
Ysgrifennwyd buchedd iddo yn 884 gan Wrmonoc, mynach o Landévennec yn Llydaw. Dywedir ei fod yn fab i bendefig o'r enw Perphirius, a gysylltir a Penychen, Morgannwg. Bu'n astudio yn ysgol Illtud yn Llanilltud Fawr, lle roedd Dewi, Samson a Gildas yn astudio ar yr un pryd. Aeth i fyw fel meudwy yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn 16 oed, yna aeth i "Gaer Banhed" yng Nghernyw, ac yn nes ymlaen symudodd i Lydaw.
Ef a sefydlodd esgobaeth Kastell-Paol (Ffrangeg: St. Pol-de-Léon), a bu'n gweithio yn Llydaw hyd ei farwolaeth ar Ynys Batz. Mae ei hanes ef wedi ei gymysgu i raddau a hanes "Paulinus" arall, Peulin, a chred rhai ysgolheigion mai'r un yw'r ddau. Ymddengys, fodd bynnag, fod Paulinus Aurelianus ychydig yn iau na Pheulin.
Mae ganddo ddau ddydd gŵyl, 12 Mawrth a 10 Hydref. Ystyrir ef yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.