Peblig
Oddi ar Wicipedia
Sant cynnar oedd Peblig (Lladin, Publicius) (fl. diwedd y 4edd ganrif - dechrau'r 5ed ganrif OC). Yn ôl traddodiad roedd yn un o feibion yr ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig ac Elen Luyddog ferch Eudaf.[1]
Yn ôl traddodiad roedd Peblig yn frawd i Owain fab Macsen Wledig a Cystennin (Constantinus). Cyfeiria Nennius (9fed ganrif) at fedd Cystennin yng "Nghaer Seint".[2] Trosglwyddwyd y gistfaen i eglwys Llanbeblig ar orchymyn Edward I o Loegr yn 1283.
Cysegrir eglwys Llanbeblig, ger caer Rufeinig Segontium (Caernarfon) i Beblig. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith fod ei enw yn Gymreigiad o'r enw personol Lladin Publicius, yn tueddu i gadarnhau'r cysylltiad Rhufeinig er na ellir profi ei fod yn fab i Elen a Macsen.
Dethlir gwylmabsant Peblig ar 3 Gorffennaf.