Pen-y-pass
Oddi ar Wicipedia
Pen-y-pass neu Pen-y-pas yw'r man uchaf (360 m) ar y bwlch rhwng yr Wyddfa a'r Glyder Fawr yn Eryri. Mae'r briffordd A4086 yn croesi'r bwlch, ac yn dirwyn i lawr tua'r gogledd-orllewin trwy Fwlch Llanberis ac i'r de-ddwyrain i lawr i Ben-y-Gwryd.
Adeiladwyd ffordd yma gyntaf yn y 1830au i gario'r mwyn copr o'r cloddfeydd ar lethrau'r Wyddfa. Adeiladwyd Gwesty Gorffwysfa yma, sydd yn awr yn hostel ieuenctid. Ceir canolfan wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri yma, a maes parcio sylweddol o faint, ac mae'n le poblogaidd iawn i ddechrau'r daith i gopa'r Wyddfa, gan mai'r dyma'r man cychwyn uchaf ar gyfer yr Wyddfa. Gellir dewis Llwybr y Mwynwyr, Llwybr Pen-y-Gwryd neu'r llwybr anoddach dros gopa Crib Goch. Gellir hefyd ddringo'r Glyder Fawr oddi yma, ond y llwybrau o ochr arall y mynydd, yn enwedig o Gwm Idwal, yw dewis y rhan fwyaf i gyrraedd copa'r mynydd yma.