Peniarth
Oddi ar Wicipedia
Peniarth yw enw plasdy ym mhlwyf Llanegryn, Sir Feirionnydd, cartref teuluol y Wynniaid (Wynne yn ddiweddarach).
Mae'n lle pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am fod y casgliad o lawysgrifau canoloesol a gasglwyd gan Syr Robert Vaughan (1592 - 1667) o Hengwrt, Meirionnydd, wedi cael cartref yno yn y 19eg ganrif. Gwerthwyd y casgliad hwnnw gan William Wynne VII i Syr John Williams yn 1898. Dyma'r casgliad unigol pwysicaf o hen lawysgrifau Cymraeg a adnabyddir heddiw fel Llawysgrifau Peniarth ac a ddiogelir i'r genedl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.