Peniarth 109
Oddi ar Wicipedia
Llawysgrif Gymraeg o ail hanner y 15fed ganrif yn llaw'r bardd Lewys Glyn Cothi (tua 1425 - tua 1490) yw Llawysgrif Peniarth 109.
Llawysgrif femrwn hir a chul sy'n mesur 238 x 99 mm ydyw, sy'n cynnwys 96 dalen. Mae'n cynnwys 106 o gerddi Lewys Glyn Cothi, un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr, yn ei law ei hun. Addurnir y llawysgrif â nifer o ddarluniau, rhai ohonynt mewn lliw, o arfbeisiau teuluoedd uchelwrol Cymru, ffaith sy'n dyst i ddiddordeb y bardd mewn herodraeth ac achau.
Mae'n bosibl iddi gael ei llunio er anrhydedd i'r Arglwydd William Herbert (m. 1469), sefydlydd teulu'r Herbertiaid, gan mai awdl iddo a geir ar ddechrau'r gyfrol, gydag awdl arall i'w frawd Rhisiart yn ei dilyn.
Ni cheir unrhyw gerdd y gellir ei dyddio i'r 1480au yn y casgliad. Mae'r cerddi diweddaraf y gellir eu dyddio yn perthyn i ddiwedd y 1470au, ac mae'n deg casglu fod y llawysgrif wedi'i gorffen tua'r adeg honno.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995). Rhagymadrodd, t. xxviii.
- E. D. Jones (gol.), Gwaith Lewis Glyn Cothi: y Gyfrol Gyntaf (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Testun llawysgrif Peniarth 109 yn llaw y bardd ei hun, yn yr orgraff wreiddiol. (Ni chafwyd ail gyfrol).