Peniarth 28
Oddi ar Wicipedia
Llawysgrif Peniarth 28 yw un o'r llawysgrifau Cymreig hynaf. Un o lyfrau Cyfraith Hywel Dda ydyw, a'r testun yn Lladin. Mae'n cynnwys nifer o luniau lliw i ddarlunio'r testun.
Mae'r llawysgrif yn cynnwys un o'r fersiynau o'r testun Lladin o'r cyfreithiau a adnabyddir heddiw fel y testun 'Lladin A'. Mae'r fersiwn yma o gyfraith Hywel yn tarddu o Wynedd ac yn rhan o'r corff o lyfrau cyfraith Cymreig a elwir yn Fersiwn Gwynedd. Fel y rhan fwyaf o'r llyfrau cyfraith, llyfr bach ydyw Peniarth 28, cyfleus i'w gario o gwmpas. Ei brif ddiddordeb yw'r cyfres o luniau bach yn darlunio pynciau perthnasol, er enghraifft Swyddogion Llys y Brenin, anifeiliaid a phobl gyffredin.
Mae'r arbenigwr ar lyfrau Cymreig cynnar Daniel Huws yn awgrymu i'r llyfr gael ei wneud ar gyfer gŵr eglwysig fel cyfrol gyflwyno. Pwy bynnag oedd y clerigwr hwnnw, roedd Peniarth 28 yn llyfrgell abaty yng Nghaergaint tua dechrau'r 14eg ganrif. Awgryma Daniel Huws ymhellach mai hwn oedd yr union lyfr y dyfynodd John Pecham, Archesgob Caergaint ohono yn ei lythyr o gerydd a chomdemniad at Llywelyn ap Gruffudd ym mis Tachwedd, 1282, pan oedd Edward I o Loegr ar fin ymosod ar Wynedd.
Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
[golygu] Llyfryddiaeth
- H.D. Emanuel (gol.), The Latin Texts of the Welsh Laws (Caerdydd, 1967)
- Daniel Huws, Peniarth 28 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1988)
- Peniarth 28: fersiwn digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru