Penrhyn Gobaith Da
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).
Penrhyn mwyaf enwog De Affrica yw Penrhyn Gobaith Da. Fe'i lleolir ger Cape Town ac fel arfer mae pobl yn meddwl ei bod hi'n ffin rhwng Môr Iwerydd a Cefnfor India, ond dydy hynny ddim yn wyr am fod Penhryn Agulhas yn fwy deheuol na Penhryn Gobaith Da.
[golygu] Hanes
Y morwr Ewropeaidd cyntaf a aeth o gwmpas y penrhyn hwn oedd Bartolomeu Dias, morwr o Bortiwgal, a aeth o gwmpas Penhryn Gobaith Da yn 1488. Oherwydd y tywydd ofnadwy ar y pryd rhoddodd Dias yr enw "Penrhyn Tymhestloedd" (Cabo das Tormentas) arno, ond newidiodd Ioan II o Bortiwgal yr enw i "Benrhyn Gobaith Da" (Cabo da Boa Esperança), am iddo obeithio y byddai hynny'n fordd newydd i'r dwyrain.
Ar 6 Ebrill, 1652 cododd Jan van Riebeeck, masnachwr o'r Iseldiroedd, wersyll gyflenwi i'r Cwmni Dwyrain India Iseldiraidd. Datblygodd y wersyll hon i fod yn Cape Town. Ar ar 31 Rhagfyr, 1687 cychwynnodd grŵp o Hiwgenotiaid o Frainc i'r Penhryn Gobaith da er mwyn osgoi erledigaeth crefyddol.
Ar 19 Ionawr, 1806 cipiodd Prydain Fawr Benrhyn Gobaith Da. O ganlyniad i gytundeb rhwng Prydain a'r Iseldiroedd ym 1814 daeth ardal y penrhyn yn wladfa Brydeinig.