Philip Powell
Oddi ar Wicipedia
Mynach o Urdd Sant Benedict a merthyr Catholig Cymreig oedd Philip Powell (2 Chwefror 1594 - 30 Mehefin 1646).
Ganed ef yn y Trallwng (efallai Trallwng Cynfyn), Sir Frycheiniog , yn fan i Roger ap Rosser Powell a Catherine Morgan. Aeth i ysgol ramadeg Y Fenni, ac yna bu'n astudio'r gyfraith o 1610 hyd 1614. Wedi hynny bu'n astudio yn Fflandrys ym Mhrifysgol Louvain hyd 1619. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1618, a daeth yn fynach y flwyddyn wedyn. Bu'n astudio dan Dom Leander Jones. Bu'n cellerarius priordy Sant Gregori, Douai, hyd ddechrau 1622, pan anfonwyd ef i Loegr i genhadu. Bu'n byw yn Llundain am gyfnod, yna'n gaplan i nifer o deuluoedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf.
Pan ddechreuodd Rhyfel Catref Lloegr, bu'n gaplan i filwyr Catholig ym myddin y Cadfridog Goring yng Nghernyw. Pan orchfygwyd y fyddin honno, cymerodd long i dde Cymru. Cipiwyd y llong gan y Seneddwyr ger y Mwmbwls ar 22 Chwefror 1646, a chymerwyd Powell i'r ddalfa fel offeiriad. Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Llundain am fod yn offeiriad Pabyddol, ac fe'i dienyddiwyd yn Tyburn ar 30 Mehefin.