Pont Hafren
Oddi ar Wicipedia
Pont grog sy'n pontio'r afon Hafren yn ne Swydd Caerloyw gyda phont grog llai yn pontio'r Afon Gwy i Sir Fynwy yw'r Bont Hafren. Y groesfan wreiddiol rhwng Cymru a Lloegr yw'r bont hon a chymerwyd pum mlynedd i'w chodi gan gostio £8 miliwn. Agorwyd y bont ar 8 Medi 1966 gan Frenhines Elizabeth II a gyfeiriodd ati fel dechrau cyfnod economaidd newydd i dde Cymru. Rhoddwyd statws rhestredig GraddI i'r bont ym 1998.
[golygu] Lleoliad
Serch i'r Bont Hafren ond gael ei defnyddio i groesi rhwng Cymru a Lloegr, y mae'r bont ei hun wedi'i lleoli'n gyfan gwbl y tu mewn i ffiniau Lloegr. Y mae pen Cymreig y bont wedi'i lleoli uwchben penrhyn Beachley, sydd wedi'i lleoli tu fewn i ffiniau Lloegr.
Arferai penrhyn Beachley fod y tu mewn i ffiniau Cymru yn ôl hen leoliad Clawdd Offa.
[golygu] Adeileddau Allweddol
Y mae croesfan y Bont Hafren yn cynnwys nifer o adeileddau sy'n cynnwys: Pont Gwy, Traphont Beachley, Pont Hafren a Thraphont Aust.
Pont Gwy
Pont 1340tr (408m) o hyd sydd wedi'i angori â cheblau yw'r Bont Gwy, ac mae'n pontio'r ffin a ddiffinir gan yr Afon Gwy i mewn i Gymru, 3km i'r de o Gasgwent.
Traphont Beachley
Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Beachley sydd wedi'i gynnal gan drestlau haearn wrth iddi grosi'r penrhyn. Gwersyll y fyddin sydd ar y penrhyn.
Pont Hafren
Lleolir Pont Hafren yn agos i leoliad y gynt Fferi Aust. Pont grog 5240tr (1597m) o hyd ydyw sydd â dec wedi'i gynnal gan ddau brif gebl sy'n hongian rhwng dau dŵr haearn. Hyd y bwlch rhwng y ddau dŵr yw 3240tr (988m). Y mae'r tyrau'n wag ac yn codi 445tr (136m) uchben level y môr.
Traphont Aust
Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Aust ac y mae'n cario'r ffordd i angorfa gyntaf y Bont Hafren.