Pontypridd
Oddi ar Wicipedia
Pontypridd Rhondda Cynon Taf |
|
Mae Pontypridd yn dref yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru. Mae wedi ei lleoli tua deuddeg milltir i’r gogledd o Gaerdydd, a chanddi boblogaeth o oddeutu 33,000. Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 13.9% o boblogaeth Pontypridd yn medru’r Gymraeg, 21.3% ag un neu ragor o fedrau yn Gymraeg, a thua chwarter plant oedran addysg gynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg.
Deillia enw’r dref o 'Pont y tŷ pridd'. Yn ôl hanes lleol, safai tŷ traddodiadol wedi ei wneud o bren, gwrysg a phridd ar lannau Afon Taf, a dyma’r enw a roddwyd i’r sawl pont a godwyd dros yr afon (gweler Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 56). Erbyn heddiw, Ponty yw’r enw a ddefnyddir gan drigolion yr ardal wrth gyfeirio at y dref ar lafar. Mae hi hefyd yn efeilldref gyda Nürtingen, yn yr Almaen.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y Bont
Mae’n siwr fod pont Pontypridd ymhlith y rhai enwocaf yng Nghymru, ac yn 2006, yr oedd hi’n dathlu 250 o flynyddoedd ers ei chodi. Pan y’i codwyd hi, hon oedd y bont hiraf yn Ewrop. Adeiladwyd y bont gan ŵr o’r enw William Edwards (1719-1789) a oedd yn weinidog Anghydffurfiol a saer maen hunanddysgedig.
Pont Pontypridd oedd ei greadigaeth mwyaf poblogaidd, a adeiladwyd rhwng 1746 a 1754. Yr oedd hi’n bont mor hir (yn pontio 140 troedfedd) nes iddi gymryd tair neu bedair ymgais i’w chodi yn llwyddiannus. Yn ôl rhai, dyma oedd tarddiad y dywediad “Tri chynnig i Gymro”.
Golchwyd y gyntaf, a wnaed o bren, i ffwrdd gan lifogydd, a chwympodd yr ail, a’r drydedd, a wnaed o gerrig, wrth eu hadeiladu oherwydd y pwysau. Cafodd y bont olaf ei gwneud o gerrig yn ogystal, ond y tro hwn yr oedd hi’n llawer ysgafnach. Ynddi roedd chwe thwll mawr, tri bob ochr gyda diamedr o 9, 6 a 3 troedfedd. Cafodd William Edwards dâl o £500 ar yr amod y byddai’r bont yn sefyll am saith mlynedd.
[golygu] Clwb Y Bont
Yn y blynyddoedd diweddar, mae cynnydd wedi bod yn y defnydd o Gymreictod ym Mhontypridd. Mae sawl mudiad a chlwb wedi ei sefydlu i hybu defnydd o’r iaith, ac un o’r rhain yw Clwb y Bont.
Mae Clwb y Bont yn glwb cymdeithasol ar ffurf tafarn a gafodd ei sefydlu yn 1983 ac wedi ei leoli ar lan Afon Taf. Yn wreiddiol i hybu Cymreictod yr ardal ydoedd, gan rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg yr ardal gwrdd â’i gilydd. Erbyn heddiw, mae’n glwb llewyrchus iawn. Ceir llawer o fandiau yn chwarae yno ar benwythnosau, ac yn prysur ddod yn un o’r prif leoliadau i gynnal gigs yn yr ardal.
Mae’r clwb yn cynnal gwersi Cymraeg ynghyd a dosbarthiadau llên yng nghwmni’r awdur adnabyddus John Evans. Mae ganddynt hefyd ystafell gynhadledd sydd ar gael am ddim i aelodau, a llu o gyfleusterau ar gyfer pob math o achlysuron.
[golygu] Preswylwyr enwog
- Evan James a James James -- cyfansoddwyr Hen Wlad fy Nhadau
- Tom Jones -- canwr byd enwog yn enedigol o Drefforest
- Lostprophets -- band roc
- Dr William Price -- y gŵr cyntaf i amlosgi corff ym Mhrydain
- Stuart Burrows a Geraint Evans -- cantorion opera yn enedigol o Gilfynydd
- Freddie Welsh -- bocsiwr byd enwog
- Neil Jenkins, Michael Owen, Martyn Williams, Kevin Morgan, Ceri Sweeney a Gareth Wyatt -- chwaraewyr rygbi rhyngwladol
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym 1893. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pontypridd 1893
[golygu] Gefeilldref
[golygu] Gweler hefyd
Trefi a phentrefi Rhondda Cynon Taf |
Aberaman | Abercynon | Aberdâr | Aberpennar | Beddau | Cwmaman | Dinas Rhondda | Gilfach Goch | Hirwaun | Llanhari | Llantrisant | Llwydcoed | Y Maerdy | Nantgarw | Penderyn | Penrhiw-ceibr | Pentre'r Eglwys | Pont-y-Clun | Pontypridd | Penywaun | Y Porth | Rhigos | Tanysguboriau | Tonypandy | Treherbert | Treorci | Ystrad Rhondda |